Toggle menu

Cwrdd â'r Tîm

David Price

Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

David Price

Mae David Price, sef Rheolwr Prosiect ar gyfer y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yn ymgysylltu â busnesau a rhanddeiliaid i wrando ar eu heriau a'u syniadau am sgiliau a recriwtio yn y rhanbarth. Wrth wneud hynny, bydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cefnogi a galluogi syniadau arloesol sy'n helpu i bontio'r gagendor rhwng addysg, sgiliau ac adfywio i greu twf cryf o ran busnes a gweithlu medrus ledled Canolbarth Cymru.

 

Louise Grove-White

Swyddog Prosiect Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Louise Grove White

Mae Louise yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth ar draws y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac yn canolbwyntio ar syniadau newydd ac arloesol sy'n annog cydweithio a phartneriaeth. Mae ganddi gyfrifoldeb penodol hefyd dros Y Warant i Bobl Ifanc a phrosiectau sy'n ymgysylltu busnesau â'r garfan hon.

 

 

Teresa Peel-Jones

Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Teresa Peel Jones

Mae Teresa yn arwain ar ymgysylltu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol yn y rhanbarth. Mae hi'n rheoli Grwpiau Clwstwr busnesau sy'n benodol i'r sector gan weithio gyda Chadeiryddion pob grŵp ar agenda gynyddol i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a heriau recriwtio yng Nghanolbarth Cymru. Ochr yn ochr â deallusrwydd y farchnad lafur, mae'r gwaith hanfodol hwn yn darparu asgwrn cefn i ddata adroddadwy'r rhanbarth i gefnogi cyflenwi Cynllun Gweithredu Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu